368 lines
26 KiB
HTML
368 lines
26 KiB
HTML
<!DOCTYPE HTML PUBLIC "-//W3C//DTD HTML 4.01 Transitional//EN">
|
|
<html>
|
|
<head>
|
|
<title>Trwydded Cyhoeddus GNU Public License</title>
|
|
<meta http-equiv="Content-Type" content="text/html; charset=iso-8859-1">
|
|
<meta name="description" content="The GNU Public License in Welsh. Y Drwydded Gyhoeddus GNU yn Gymraeg."><meta name="keywords" content="GNU, GPL, Trwydded, Cyhoeddus, Gyhoeddus, Public, License, Cymraeg, Welsh, meddalwedd, software">
|
|
<link href="../hebffinia2.css" rel="stylesheet" type="text/css">
|
|
|
|
<body bgcolor="#CCCCCC" text="#000000">
|
|
<table width="200" height="6978" border="0" align="center" cellpadding="4" cellspacing="4">
|
|
<tr>
|
|
<td width="411" height="10" class="boxSolidTitle">TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU</td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="28" class="box-solid"> <p><em>Cyfieithiad answyddogol o Drwydded
|
|
Gyhoeddus Gyffredinol (TGG) GNU i’r Gymraeg yw hwn. Ni chyhoeddwyd
|
|
mohono gan y Free Software Foundation, ac nid yw’n mynegi’n
|
|
gyfreithiol termau dosbarthu meddalwedd sy’n defnyddio TGG
|
|
GNU--testun Saesneg gwreiddiol TGG GNU yn unig a wna hynny. Serch hynny,
|
|
gobeithiwn y bydd y cyfieithiad yma’n gymorth i siaradwyr Cymraeg
|
|
ddeall a gwneud gwell defnydd o TGG GNU.</em></p>
|
|
<p><em>This is an unofficial translation of the GNU General Public License
|
|
into Welsh. It was not published by the Free Software Foundation, and
|
|
does not legally state the distribution terms for software that uses the
|
|
GNU GPL--only the original English text of the GNU GPL does that. However,
|
|
we hope that this translation will help Welsh speakers understand the
|
|
GNU GPL better. </em></p>
|
|
<p>Fersiwn 2, Mehefin 1991</p>
|
|
<p>Hawlfraint (C) 1989, 1991 Free Software Foundation, Inc. 59 Temple Place,
|
|
Suite 330, Boston, MA 02111-1307 USA<br>
|
|
<br>
|
|
Mae gan bawb yr hawl i gopïo a dosbarthu copïau gair am air
|
|
o’r drwydded hon, ond nid oes hawl ei newid.</p></td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="28" class="box-solid"><p class="underline">Rhagair</p>
|
|
<p>Mae trwyddedau ar gyfer y rhan fwyaf o feddalwedd wedi’u cynllunio
|
|
i’ch amddifadu o’ch rhyddid i’w rhannu a’i newid.
|
|
I’r gwrthwyneb mae Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU wedi’i
|
|
bwriadu i warantu eich rhyddid i rannu a newid meddalwedd rhydd--i wneud
|
|
yn siwr fod pob meddalwedd yn rhydd ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Mae’r
|
|
Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol yn berthnasol i’r rhan fwyaf o feddalwedd
|
|
y Free Software Foundation ac i unrhyw raglen mae ei hawduron yn ymrwymo
|
|
i’w defnyddio. (Mae peth meddalwedd Free Software Foundation arall
|
|
yn cael ei gynnwys o fewn y Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llyfrgelloedd
|
|
yn lle hynny.) Mae modd ei gosod ar gyfer eich rhaglenni chi hefyd.</p>
|
|
<p>Pan ydym yn sôn am feddalwedd rhydd (free software), rydym yn sôn
|
|
am ryddid nid pris. Mae ein Trwyddedau Cyhoeddus Cyffredinol wedi’u
|
|
cynllunio i wneud yn siwr fod gennych y rhyddid i ddosbarthu copïau
|
|
o feddalwedd rhydd (a chodi am y gwasanaeth hwn os dymunwch), eich bod
|
|
yn derbyn y côd ffynhonnell neu bod modd i chi ei gael os dymunwch,
|
|
bod modd i chi newid y feddalwedd neu ddefnyddio darnau ohoni ar gyfer
|
|
rhaglenni rhydd newydd; a’ch bod yn gwybod bod bod modd i chi wneud
|
|
y pethau hyn.</p>
|
|
<p>I ddiogleu eich hawliau, mae angen i ni osod cyfyngiadau sy’n atal
|
|
unrhyw un rhag eich amddifadu o’r hawliau hyn neu ofyn i chi ildio’r
|
|
hawliau. Mae’r cyfyngiadau’n trosi i rhai cyfrifoldebau penodol
|
|
i chi os ydych yn dosbarthu copïau o’r feddalwedd, neu yn ei
|
|
newid.</p>
|
|
<p>Er engrhaifft, os byddwch yn dosbarthu copïau o raglen, p’un
|
|
ai am ddim neu am bris, rhaid i chi rhoi i’r derbynwyr yr holl hawliau
|
|
sydd gennych chi. Rhaid i chi hefyd wneud yn siwr eu bod hwy hefyd yn
|
|
derbyn neu yn medru cael y côd ffynhonnell. A rhaid i chi ddangos
|
|
yr amodau hyn iddyn nhw wybod eu hawliau.</p>
|
|
<p>Rydym yn diogelu eich hawliau gyda dau gam: (1) hawlfreintio’r
|
|
feddalwedd, a (2) cynnig y drwydded hon sy’n rhoi caniatâd
|
|
i chi gopïo, dosbarthu a/neu addasu’r feddalwedd.</p>
|
|
<p> Hefyd, ar gyfer diogelwch pob awdur a’n diogelwch ni, rydym eisiau
|
|
gwneud yn siwr fod pawb yn deall nad oes gwarant ar gyfer y feddalwedd
|
|
rydd hon. Os yw’r feddalwedd yn cael ei haddasu gan rywun a’i
|
|
phasio ymlaen, rydym am i’w derbynwyr wybod nad y gwreiddiol sydd
|
|
ganddynt, fel nad yw problemau sydd wedi’u cyflwyno gan eraill yn
|
|
adlewyrchu ar enw da’r awduron gwreiddiol.<br>
|
|
<br>
|
|
Yn olaf, mae unrhyw rhaglen rydd o dan fygythiad parhaus patentau meddalwedd.
|
|
Rydym yn awyddus i osgoi’r perygl fod ailddosbarthwyr rhaglen rydd
|
|
yn cymryd trwydded patent, gan wneud y rhaglen yn berchnogol. I rwystro
|
|
hyn, rydym wedi’i gwneud hi’n glir y dylai unrhyw batent gael
|
|
ei drwyddedu ar gyfer defnydd rhydd pawb neu beidio gael ei drwyddedu
|
|
o gwbl.</p>
|
|
<p>Isod ceir yr union amodau ar gyfer copïo, dosbarthu ac addasu. </p>
|
|
</td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="28" class="boxSolidTitle">TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU</td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="28" class="box-solid"><p class="underline">TELERAU AC AMODAU AR
|
|
GYFER COPÏO, DOSBARTHU AC ADDASU </p>
|
|
<p>0. Mae’r Drwydded hon yn berthnasol i unrhyw raglen neu waith arall
|
|
sy’n cynnwys hysbysiad wedi’i osod gan y daliwr hawlfraint
|
|
sy’n nodi bod modd ei ddosbarthu o dan amodau’r Drwydded Gyhoeddus
|
|
Gyffredinol hon. Mae’r “Rhaglen” , isod, yn cyfeirio
|
|
at unrhyw raglen neu waith, ac mae “gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen”
|
|
yn golygu un ai y Rhaglen neu unrhyw waith deilliannol o dan gyfraith
|
|
hawlfraint: hynny yw, gwaith yn cynnwys y rhaglen neu ran ohoni, un ai
|
|
air am air neu gyda newidiadau a/neu gyfieithiad i iaith arall. (O hyn
|
|
ymlaen, bydd cyfieithu yn cael ei gynnwys heb gyfyngiad o fewn y term
|
|
“addasu” . Cyfeirir at bob daliwr trwydded fel “chi”
|
|
.</p>
|
|
<p>Nid yw gweithgareddau ar wahân i gopïo, dosbarthu ac addasu
|
|
yn cael eu cynnwys yn y Drwydded hon; maen nhw tu allan iddi. Nid oes
|
|
cyfyngiad ar y weithred o redeg y Rhaglen, ac mae allbwn y Rhaglen yn
|
|
gynwysedig dim ond os yw cynnwys yr allbwn yn ffurfio gwaith sy’n
|
|
seiliedig ar y Rhaglen (yn annibynnol o fod wedi cael ei wneud o redeg
|
|
y Rhaglen). Mae p’un ai yw hyn yn wir yn dibynnu ar beth mae’r
|
|
Rhaglen yn ei wneud.</p>
|
|
<p>1. Mae hawl i chi gopïo a dosbarthu copïau gair am air o’r
|
|
côd ffynhonnell fel i chi ei dderbyn, ar unrhyw gyfrwng, ar yr amod
|
|
eich bod yn cyhoeddi yn eich copi yn amlwg ac yn addas hysbysiad hawlfraint
|
|
a gwadiad gwarant; yn cadw pob hysbysiad sy’n cyfeirio at y Drwydded
|
|
hon ac i absenoldeb unrhyw warant gyda’i gilydd yn gyfan; a rhoi
|
|
i dderbynwyr eraill y Rhaglen gopi o’r Drwydded hon gyda’r
|
|
Rhaglen.</p>
|
|
<p>Mae modd i chi godi tâl am y weithred gorfforol o drosglwyddo copi,
|
|
ac mae modd i chi, yn ôl eich dewis, gynnig diogelwch gwarant yn
|
|
gyfnewid am dâl.</p>
|
|
<p>2. Mae modd i chi newid eich copi neu gopïau o’r rhaglen neu
|
|
unrhyw rhan ohoni, gan felly greu gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen, a
|
|
chopïo a dosbarthu yr addasiadau neu’r gwaith o dan amodau
|
|
Adran 1 uchod, ar yr amod eich bod hefyd yn bodloni pob un o’r amodau
|
|
hyn:</p>
|
|
<p>a) Rhaid i chi achosi i’r ffeiliau sydd wedi’u haddasu gario
|
|
hysbysiadau amlwg yn datgan eich bod wedi newid y ffeiliau a dyddiad unrhyw
|
|
newid.</p>
|
|
<p>b) Rhaid i chi achosi i unrhyw waith rydych yn ei ddosbarthu neu ei gyhoeddi,
|
|
sydd yn gyfangwbl neu yn rhannol yn deillio o’r Rhalgen neu unrhyw
|
|
ran ohoni, gael ei thrwyddedu fel cyfanwaith heb unrhyw gost i bob trydydd
|
|
parti dan delerau’r Drwydded hon.</p>
|
|
<p>c) Os yw’r rhaglen sydd wedi’i haddasu fel arfer yn darllen
|
|
gorchmynion yn rhyngweithiol pan gaiff ei rhedeg, rhaid i chi achosi iddi,
|
|
pan fydd yn cychwyn rhedeg ar gyfer defnydd rhyngweithiol o’r fath
|
|
yn y ffordd fwyaf cyffredin, argraffu neu arddangos datganiad yn cynnwys
|
|
hysbysiad hawlfraint addas a hysbysiad nad oes yna warant (neu fel arall,
|
|
yn dweud eich bod chi yn rhoi gwarant) ac y gall defnyddwyr ailddosbarthu’r
|
|
rhaglen dan yr amodau hyn, ac yn dweud wrth y defnyddiwr sut i edrych
|
|
ar gopi o’r Drwydded hon. (Eithriad: os yw’r Rhaglen ei hun
|
|
yn rhyngweithiol ond nad yw fel arfer yn argraffu datganiad o’r
|
|
fath, nid oes raid i’ch gwaith sy’n seiliedig ar y Rhaglen
|
|
argraffu datganiad.) Mae’r gofynion hyn wedi’u gosod ar y
|
|
gwaith sydd wedi’i addasu fel cyfanwaith. Os ceir rhannau y mae
|
|
modd eu hadnabod o’r gwaith hwnnw sydd heb ddeillio o’r Rhaglen,
|
|
a bod modd yn rhesymol eu hystyried fel gweithiau annibynnol ac ar wahân
|
|
ynddynt eu hunain, yna nid yw’r Drwydded hon, a’i thelerau,
|
|
yn berthnasol i’r adrannau hynny pan fyddwch yn eu dosbarthu fel
|
|
gweithiau ar wahân. Ond pan fyddwch yn dosbarthu’r un rhannau
|
|
fel rhan o gyfanwaith sy’n waith seiliedig ar y Rhaglen, rhaid i
|
|
ddosbarthiad y cyfanwaith fod ar delerau’r Drwydded hon, y mae ei
|
|
chaniatâd i drwyddedigion eraill yn estyn i’r cyfanwaith i
|
|
gyd, ac felly i bob un rhan ohoni heb wneud cyfrif o bwy wnaeth ei ysgrifennu.</p>
|
|
<p>Felly, nid bwriad yr adran hon yw hawlio hawliau na herio eich hawliau
|
|
i waith sydd wedi’i ysgrifennu yn gyfangwbl gennych chi; yn hytrach,
|
|
y bwriad yw gweithredu’r hawl i reoli dosbarthiad gweithiau deilliannol
|
|
neu gyfunol sy’n seiliedig ar y Rhaglen.</p>
|
|
<p>Yn ychwanegol, nid yw cydgrynhoi gwaith arall nad yw wedi’i seilio
|
|
ar y Rhaglen gyda’r Rhaglen (neu gyda gwaith sydd wedi’i seilio
|
|
ar y Rhalgen) ar gyfrol o gyfrwng storio neu ddosbarthu yn dod â’r
|
|
gwaith arall o fewn cwmpas y Drwydded hon. </p>
|
|
<p>3. Gallwch gopïo a dosbarthu’r Rhaglen (neu waith wedi’i
|
|
seilio arni, dan Adran 2) mewn côd gwrthrych neu ffurf weithredadwy
|
|
dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ond i chi hefyd wneud un o’r canlynol:</p>
|
|
<p>a) Rhoi gyda hi y côd ffynhonnell darllenadwy i beiriant cyfatebol
|
|
cyflawn, sydd yn gorfod cael ei ddosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2
|
|
uchod ar gyfrwng sydd yn gyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid
|
|
meddalwedd; neu,</p>
|
|
<p>b) Rhoi gyda hi gynnig ysgrifenedig, sy’n ddilys am o leiaf dair
|
|
blynedd, i roi i unrhyw drydydd parti, am dâl sydd ddim mwy na’ch
|
|
cost am y weithred gorfforol o ddosbarthu côd, i’w dosbarthu
|
|
dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng sydd fel arfer yn cael ei
|
|
ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,</p>
|
|
<p>c) Rhoi gyda hi y wybodaeth y gwnaethoch chi ei derbyn ynghylch y cynnig
|
|
i ddosbarthu côd ffynhonnell cyfatebol. (Dim ond ar gyfer dosbarthiad
|
|
anfasnachol y mae’r dewis arall hwn yn cael ei ganiatâu a
|
|
dim ond os gwnaethoch chi dderbyn y rhaglen mewn côd gwrthrych neu
|
|
ffurf weithredadwy gyda chynnig o’r fath, yn unol ag Isadran b uchod.)</p>
|
|
<p>Mae’r côd ffynhonnell ar gyfer gwaith yn golygu ffurf ddewisol
|
|
y gwaith ar gyfer ei addasu. Ar gyfer gwaith gweithredadwy, ystyr côd
|
|
ffynhonnell cyflawn yw’r cyfan o’r côd ffynhonnell ar
|
|
gyfer pob modiwl y mae’n eu cynnwys, a hefyd unrhyw ffeiliau diffinio
|
|
rhyngwyneb cysylltiedig, a hefyd y sgriptiau a ddefnyddiwyd i reoli creu
|
|
a gosod y gwaith gweithredadwy. Fodd bynnag, fel eithriad arbennig, nid
|
|
oes raid i’r côd ffynhonnell sy’n cael ei ddosbarthu
|
|
gynnwys unrhyw beth sy’n cael ei ddosbarthu fel arfer (naill ai
|
|
ar ffurf ffynhonnell neu ddeuaidd) gyda phrif gydrannau (crynhoydd, cnewyllyn,
|
|
ac ati) y system weithredu y mae’r gwaith gweithredadwy yn rhedeg
|
|
arno, on bai fod y gydran honno ei hun yn dod gyda’r gwaith gweithredadwy.</p>
|
|
<p>Os yw’r gwaith gweithredadwy neu gôd gwrthrych yn cael ei
|
|
ddosbarthu drwy gynnig mynediad at gopi o le dynodedig, yna mae cynnig
|
|
mynediad cyfatebol i gopïo’r côd ffynhonnell o’r
|
|
un lle yn cyfrif fel dosbarthu’r côd ffynhonnell, er nad yw
|
|
trydydd partïon yn cael eu gorfodi i gopïo’r ffynhonnell
|
|
ynghyd â’r côd gwrthrych.</p>
|
|
<p>4. Nid oes hawl i chi gopïo, addasu, isdrwyddedu na dosbarthu’r
|
|
Rhaglen ac eithrio fel sy’n cael ei ddarparu mewn cymaint eiriau
|
|
dan y Drwydded hon. Mae unrhyw ymgais fel arall i gopïo, addasu,
|
|
isdrwyddedu neu ddosbarthu’r Rhaglen yn ddi-rym, a bydd yn awtomatig
|
|
yn terfynu eich hawliau dan y Drwydded hon. Fodd bynnag, ni fydd partïon
|
|
sydd wedi derbyn copïau, neu hawliau, oddi wrthych dan y Drwydded
|
|
hon yn cael eu trwyddedau wedi’u terfynu cyn belled â bo’r
|
|
partïon hynny yn parhau i gydymffurfio’n llawn.</p>
|
|
<p>5. Nid oes raid i chi dderbyn y Drwydded hon, gan nad ydych wedi’i
|
|
llofnodi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth arall yn rhoi hawl i chi addasu
|
|
neu ddosbarthu’r Rhaglen na’r gweithiau sy’n deillio
|
|
ohoni. Mae’r gweithredoedd hyn yn cael eu gwahardd gan y ddeddf
|
|
os nad ydych yn derbyn y Drwydded hon. Felly, drwy addasu neu ddosbarthu’r
|
|
Rhaglen (neu unrhyw waith sy’n seiliedig ar y Rhaglen), rydych yn
|
|
dangos eich bod yn derbyn y Drwydded hon i wneud hynny, a’i holl
|
|
delerau ac amodau ar gyfer copïo, dosbarthu neu addasu’r Rhaglen
|
|
neu weithiau sy’n seiliedig arni.</p>
|
|
<p>6. Bob tro rydych yn ailddosbarthu’r Rhaglen (neu unrhyw waith
|
|
sy’n seiliedig ar y Rhaglen), mae’r derbyniwr yn awtomatig
|
|
yn derbyn trwydded oddi wrth y trwyddedwr gwreiddiol i gopïo, dosbarthu
|
|
neu addasu’r Rhaglen yn unol â’r telerau ac amodau hynny.
|
|
Nid oes hawl gennych osod unrhyw gyfyngiadau pellach ar weithrediad derbynwyr
|
|
o’r hawliau sy’n cael ei rhoi ynddi. Nid ydych yn gyfrifol
|
|
am orfodi trydydd partïon i gydymffurfio â’r Drwydded
|
|
hon.</p>
|
|
<p>7. 7. Os yw amodau yn cael eu gosod arnoch, o ganlyniad i ddyfarniad
|
|
llys neu honiad o dorri patent neu am unrhyw reswm arall (heb fod yn gyfyngedig
|
|
i faterion patent), p’un ai gan orchymyn llys, cytundeb neu rywbeth
|
|
arall, sy’n croesddweud amodau’r Drwydded hon, nid ydynt yn
|
|
eich esgusodi rhag amodau’r Drwydded hon. Os na allwch ddosbarthu
|
|
fel ag i fodloni ar yr un pryd eich rhwymedigaethau dan y Drwydded hon
|
|
ac unrhyw rwymedigaethau perthnasol eraill, yna o ganlyniad i hyn ni chewch
|
|
ddosbarthu’r Rhaglen o gwbl. Er enghraifft, pe na bai trwydded patent
|
|
yn caniatâu i’r Rhaglen gael ei hailddosbarthu yn rhydd rhag
|
|
breindal gan bawb sy’n derbyn copïau yn uniongyrchol neu’n
|
|
anuniongyrchol drwyddoch chi, yna’r unig ffordd y gallech ei bodloni
|
|
hi a’r Drwydded hon fyddai i ymatal yn llwyr rhag dosbarthu’r
|
|
Rhaglen.</p>
|
|
<p>Os yw unrhyw ran o’r adran hon yn cael ei hystyried i fod yn annilys
|
|
neu’n amhosibl ei gweithredu dan unrhyw amgylchiad arbennig, bwriedir
|
|
gweddill yr adran i fod yn berthnasol a bwriedir yr adran yn gyfan i fod
|
|
yn berhnasol dan amgylchiadau eraill.</p>
|
|
<p>Nid pwrpas yr adran hon yw gwneud i chi dorri unrhyw hawlio patentau
|
|
neu hawliau eiddo eraill neu ymladd dilysrwydd unrhyw hawlio o’r
|
|
fath; unig bwrpas yr adran hon yw diogelu cyfanrwydd y system ddosbarthu
|
|
meddalwedd rhydd, sy’n cael ei weithredu gan arferion trwyddedu
|
|
cyhoeddus. Mae llawer o bobl wedi gwneud cyfraniadau hael i’r dewis
|
|
eang o feddalwedd sy’n cael ei dosbarthu drwy’r system honno
|
|
ac sy’n dibynnu ar gysondeb gweithrediad y system honno; mater i’r
|
|
awdur/rhoddwr yw penderfynu a yw ef/hi yn barod i ddosbarthu meddalwedd
|
|
drwy unrhyw systemau eraill ac ni all y sawl sy’n drwyddedig orfodi’r
|
|
dewis hwnnw.</p>
|
|
<p>Bwriad yr adran hon yw ei gwneud hi’n hollol eglur beth y credir
|
|
ei fod yn ganlyniad gweddill y Drwydded hon. 8. Os yw dosbarthiad a/neu
|
|
ddefnydd y Rhaglen hon yn cael ei gyfyngu mewn rhai gwledydd naill ai
|
|
gan batentau neu ryngwynebau wedi’u hawlfreintio, gall deiliad yr
|
|
hawlfraint gwreiddiol sy’n gosod y Rhaglen dan y Drwydded hon ychwanegu
|
|
cyfyngiad dosbarthu daearyddol yn cau allan y gwledydd hynny, fel bod
|
|
dosbarthu yn cael ei ganiatâu yn unig o fewn neu rhwng gwledydd
|
|
nad ydynt wedi cael eu cau allan fel hyn. Mewn achos o’r fath, mae’r
|
|
Drwydded hon yn ymgorffori’r cyfyngiad fel petai wedi’i ysgrifennu
|
|
yng nghorff y Drwydded hon.</p>
|
|
<p>9. Efallai y bydd y Free Software Foundation yn cyhoeddi fersiynau wedi’u
|
|
hadolygu a/neu rhai newydd o’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol o
|
|
dro i dro. Bydd fersiynau newydd o’r fath yn debyg o ran ysbryd
|
|
i’r fersiwn presennol, ond efallai y byddant yn wahanol yn y manylion
|
|
er mwyn delio gyda phroblemau neu bryderon newydd.<br>
|
|
Rhoddir rhif fersiwn gwahanol i bob fersiwn. Os yw’r Rhaglen yn
|
|
pennu rhif fersiwn o’r Drwydded hon sy’n berthnasol iddi ac
|
|
“unrhyw fersiwn diweddarach” , mae gennych y dewis o ddilyn
|
|
telerau ac amodau naill ai’r fersiwn hwnnw neu unrhyw fersiwn diweddarach
|
|
a gyhoeddir gan y Free Software Foundation. Os nad yw’r Rhaglen
|
|
yn pennu rhif fersiwn o’r Drwydded hon, gallwch ddewis unrhyw fersiwn
|
|
a gyhoeddwyd erioed gan y Free Software Foundation.</p>
|
|
<p>10. Os dymunwch ymgorffori rhannau o’r Rhaglen i mewn i raglenni
|
|
rhydd eraill y mae amodau eu dosbarthu yn wahanol, ysgrifennwch at yr
|
|
awdur i ofyn caniatâd. Ar gyfer meddalwedd sydd wedi’i hawlfreintio
|
|
gan y Free Software Foundation, ysgrifennwch at y Free Software Foundation;
|
|
rydym ni weithiau yn gwneud eithriadau ar gyfer hyn. Bydd ein penderfyniad
|
|
yn cael ei arwain gan y ddau nod o ddiogelu statws rhydd pob un o ddeilliannau
|
|
ein meddalwedd rhydd ac o hybu rhannu ac ailddefnyddio meddalwedd yn gyffredinol.</p>
|
|
</td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="109" class="box-solid">
|
|
<p class="underline">DIM GWARANT</p>
|
|
<p>11. GAN FOD Y RHAGLEN YN CAEL EI THRWYDDEDU YN RHAD AC AM DDIM, NID OES
|
|
GWARANT AR GYFER Y RHAGLEN, I’R GRADDAU Y MAE’R GYFRAITH BERTHNASOL
|
|
YN CANIATÂU. AC EITHRIO LLE CEIR DATGANIAD YSGRIFENEDIG FEL ARALL
|
|
MAE DALWYR YR HAWLFRAINT A/NEU BARTÏON ERAILL YN DARPARU’R
|
|
RHAGLEN “FEL Y MAE” HEB WARANT O UNRHYW FATH, NAILL AI WEDI’I
|
|
FYNEGI NEU YMHLYG, GAN GYNNWYS, OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I WARANTAU OBLYGEDIG
|
|
YNGHYLCH MARSIANDWYAETH A FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. MAE’R HOLL
|
|
RISG YNGHYLCH ANSAWDD A PHERFFORMIAD Y RHAGLEN YN PERTHYN I CHI. PETAI’R
|
|
RHAGLEN YN PROFI I FOD YN DDIFFYGIOL, CHI SY’N YSGWYDDO COST YR
|
|
HOLL WASANAETHU, TRWSIO NEU GYWIRO ANGENRHEIDIOL.</p>
|
|
<p>12. NI FYDD DALWYR YR HAWLFRAINT, NEU UNRHYW BARTI ARALL A FYDD EFALLAI
|
|
YN ADDASU A/NEU AILDDOSBARTHU’R RHAGLEN FEL SY’N CAEL EI GANIATÂU
|
|
UCHOD, DAN UNRYW AMGYLCHIADAU ONI BAI BOD HYNNY’N ORFODOL DAN GYFRAITH
|
|
BERTHNASOL NEU WEDI’I GYTUNO YN YSGRIFENEDIG, YN ATEBOL I CHI AM
|
|
IAWNDAL, GAN GYNNWYS UNRHYW IAWNDAL CYFFREDINOL, ARBENNIG, ATODOL NEU
|
|
GANLYNIADOL YN CODI O DDEFNYDDIO NEU ANALLU I DDEFNYDDIO’R RHAGLEN
|
|
(GAN GYNNWYS OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I GOLLI DATA NEU DDATA YN CAEL
|
|
EI WNEUD YN WALLUS NEU GOLLEDION A DDIODDEFIR GENNYCH CHI NEU DRYDYDD
|
|
PARTÏON NEU FETHIANT Y RHAGLEN I WEITHREDU GYDAG UNRHYW RAGLENNI
|
|
ERAILL), HYD YN OED OS YW DALIWR O’R FATH NEU BARTI ARALL WEDI CAEL
|
|
EI GYNGHORI O BOSIBILRWYDD IAWNDAL O’R FATH.</p>
|
|
<p class="whiteBold">DIWEDD Y TELERAU A’R AMODAU</p>
|
|
</td>
|
|
</tr>
|
|
<tr>
|
|
<td height="1317" class="box-solid">
|
|
<p class="underline">Sut i Gymhwyso’r
|
|
Telerau hyn i’ch Rhaglenni Newydd</p>
|
|
<p>Os ydych yn datblygu rhaglen newydd, a’ch bod am iddi fod mor ddefnyddiol
|
|
ag y mae modd i’r cyhoedd, y ffordd orau i gyflawni hyn yw i’w
|
|
gwneud yn feddalwedd rhydd y gall pawb ei hailddosbarthu a’i newid
|
|
dan y telerau hyn.</p>
|
|
<p>I wneud hyn, atodwch yr hysbysiadau canlynol i’r rhaglen. Y ffordd
|
|
fwyaf diogel yw eu hatodi i ddechrau pob ffeil ffynhonnell i gyfleu’r
|
|
ffaith fod gwarant wedi’i chau allan yn y ffordd fwyaf effeithiol;
|
|
a dylai pob ffeil gael o leiaf un llinell “hawlfraint” a phwyntydd
|
|
at y man lle ceir yr hysbysiad llawn.</p>
|
|
<p><un llinell i roi enw’r rhaglen a syniad byr o’r hyn mae’n
|
|
gwneud.> Hawlfraint (C) <blwyddyn> <enw’r awdur></p>
|
|
<p>Mae’r rhaglen hon yn feddalwedd rhydd; gallwch ei hailddosbarthu
|
|
a/neu ei haddasu dan delerau Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU fel y’i
|
|
cyhoeddwyd gan y Free Software Foundation; naill ai fersiwn 2 y Drwydded,
|
|
neu (yn ôl eich dewis) unrhyw fersiwn diweddarach.</p>
|
|
<p>Mae’r rhaglen hon yn cael ei dosbarthu yn y gobaith y bydd yn ddefnyddiol,
|
|
ond HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH
|
|
neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. Gweler Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol
|
|
GNU am ragor o fanylion.</p>
|
|
<p>Dylech fod wedi derbyn copi o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU ynghyd
|
|
â’r rhaglen hon; os na, ysgrifennwch at y</p>
|
|
<p>Free Software Foundation, Inc., 59 Temple Place, Suite 330, Boston MA
|
|
02111-1307 USAHefyd dylech gynnwys gwybodaeth am sut i gysylltu â
|
|
chi drwy gyfrwng y post electronig a phapur.</p>
|
|
<p>Os yw’r rhaglen yn rhyngweithiol, gwnewch iddi allbynnu hysbysiad
|
|
byr fel hyn pan fydd yn dechrau mewn modd rhyngweithiol:</p>
|
|
<p>Gnomovision fersiwn 69, Hawlfraint (C) blwyddyn enw’r awdur. Mae
|
|
Gnomovision yn dod HEB UNRHYW WARANT O GWBL; am fanylion teipiwch ‘dangoswch
|
|
w’. Meddalwedd rhydd yw hwn, ac mae croeso i chi ei ailddosbarthu
|
|
dan amodau arbennig; teipiwch ‘dangoswch c’ am fanylion.</p>
|
|
<p>Dylai’r gorchmynion damcaniaethol ‘dangoswch w’ a ‘dangoswch
|
|
c’ ddangos y rhannau priodol o’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol.
|
|
Wrth gwrs, gall y gorchmynion rhydych chi’n eu defnyddio fod wedi’u
|
|
galw’n rhywbeth arall ar wahân i ‘dangoswch w’
|
|
a ‘dangoswch c’; gallent hyd yn oed fod yn cliciadau llygoden
|
|
neu eitemau ar ddewislen--beth bynnag sy’n addas i’ch rhaglen.</p>
|
|
<p>Dylech hefyd gael eich cyflogwr (os ydych chi’n gweithio fel rhaglennydd)
|
|
neu eich ysgol, os oes un, i lofnodi “gwadiad hawlfraint”
|
|
ar gyfer y rhaglen, os oes angen. Dyma sampl; newidiwch yr enwau:</p>
|
|
<p>Mae Yoyodyne, Inc. drwy hyn yn gwadu pob buddiant hawlfraint yn y rhaglen
|
|
‘Gnomovision’ (sy’n mwytho crynhowyr) a ysgrifennwyd
|
|
gan James Hacker.<br>
|
|
<llofnod Ty Coon>, 1 Ebrill 1989<br>
|
|
Ty Coon, Llywydd Llygredd</p>
|
|
<p>Nid yw’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon yn caniatâu i’ch
|
|
rhaglen gael ei hymgorffori mewn rhaglenni perchnogol. Os mai llyfrgell
|
|
isreolwaith yw eich rhaglen, efallai y byddwch yn ystyried ei bod hi’n
|
|
fwy defnyddiol cysylltu cymwyseddau perchnogol gyda’r llyfrgell.
|
|
Os mai dyma’r hyn rydych am ei wneud, defnyddiwch Drwydded Gyhoeddus
|
|
Gyfredinol Llyfrgelloedd GNU yn lle’r Drwydded hon.</p>
|
|
<p>--</p>
|
|
<p><em>Cyfieithiad gan <a href="http://www.meddal.org.uk" target="_blank">Rhoslyn
|
|
Prys, meddal.org.uk</a> </em></p>
|
|
<p><em>Cyfieithu ychwanegol gan <a href="http://www.aprheinallt.plus.com" target="_blank">Maredudd
|
|
ap Rheinallt</a></em></p>
|
|
<p><a href="http://www.gnu.org/licenses/gpl.html" target="_blank">GPL yn
|
|
Saesneg</a></p>
|
|
<p><a href="../meddalwedd/index.html">Tudalen meddalwedd rhydd</a></p></td>
|
|
</tr>
|
|
</table>
|
|
</body>
|
|
</html>
|